Croeso i wefan Cyngor Cymuned
Llanrhaeadr-yng-Nghinmeirch
Mae Cyngor Cymuned Llanrhaeadr-yng-Nghinmeirch
yn cwmpasu ardaloedd Llanrhaeadr, Prion a Saron.
Mae’r plwyf wedi ei leoli rhwng y cymunedau o
Dinbych, Llandyrnog, Llanynys, Cyffylliog a Nantglyn.
Mae’r Cyngor Cymuned yn gorff etholedig o 10
cynghorydd s`yn dod o amrywiaeth o gefndiroedd, sy’n
gweithio’n ddi-dal ac yn hollol wirfoddol er budd y
gymdogaeth maent yn byw ynddo yn ogystal a
buddianau y trigolion lleol.
Rydym yn cyfarfod bob Nos Lun olaf yn y mis (heblaw
am misoedd Awst a Rhagfyr), am 7:30 yn Ysgol Bro
Cinmeirch neu yn Ysgol Pant Pastynog.
Mae gennym gaderiydd etholedig, is-gadeirydd a
chlerc sy’n gyfrifol am gadw cofnodion a gohebiaeth.
Bydd ein cynghorydd sirol hefyd yn bresennol yny ein
cyfarfodydd.
Yn ystod ein cyrfarfodydd byddwn yn ymdrin a
materion lleol sydd o bwys i’r gymuned- megis llwybrau
cyhoeddus, ffyrdd, draeniaid, adeiladau, a unrhyw
gwynion byddwn wedi ei dderbyn gan y cyhoedd
Byddwn yn rhoi barn ar geisiadau cynllunio cyn
danfon ein sylwadau i’r Cyngor Sirol.
Rydym yn gosod precept bob blwyddyn ac yn cyfrannu
tuag at gynnal a chadw y Pafiliwn ar maes chwarae, a
cae chwarae’r plant, yn ogystal a rhoi arian i goffrau’r
ysgol leol. Byddwn yn achlysurol yn derbyn ymwelwyr
i’r cyfarfodydd megis ein Plismon cymunedol neu ein
A.S. lleol.
Cynhelir y pwyllgorau i gyd yn y Gymraeg ac mae
croeso i unrhyw un o’r cyhoedd fod yn bersennol yn y
cyfarfodydd.
Ffon: 01824 750283 | Symudol: 07887 955613 |
Ebost: ifandavies18@yahoo.co.uk
Cyngor Cymuned - Community Council
Llanrhaeadr-yng-Nghinmeirch
Cyngor Cymuned Llanrhaeadr-yng-Nghinmeirch Community Council © 2023
Website designed and maintained by H G Web Designs
Mae Cyngor Cymuned Llanrhaeadr yn gwahodd
mudiadau lleol o fewn y Gymuned i yrru ceisiadau am
gefnogaeth arian yn y flwyddyn ariannol bresennol
erbyn 29ain o Chwefror 2020 i'r Clerc y Cyngor:-
Mr Gwyn Davies - 11 Maes Caenog, Clocaenog, Ruthin, LL15
2AU. Ebost: ifandavies18@yahoo.co.uk